Nant v Pwllheli PDF Print E-mail
Written by Ifor Glyn Evans   
Saturday, 18 April 2009 18:37

Nant Conwy – 57  v  Pwllheli – 12 

Sadwrn / Saturday  18.04.09 

Ceisiau / Tries: Adam Russell (3), Carwyn ap Myrddin (2), Meilir Jones (1), Ifan Jones (1), Trystan ap Hywel (1) 

Trosi / Conversions: Carwyn ap Myrddin (7) Cosb / Penalties: Carwyn ap Myrddin (1) 

Ar brynhawn hynod heulog a braf sgoriodd Nant yn gyson drwy’r gêm. Ar yr hanner roedd y sgôr yn 22 - 0 gyda Carwyn ap wedi sgorio cic gosb a chais o fewn 10 munud. Adam yn sgorio’i gais cyntaf ar ôl 20 munud gyda Carwyn ap yn trosi ac yna eiliadau cyn yr hanner, aeth Adam drosodd eto gyda Charwyn unwaith eto’n trosi. Yn ystod yr ail hanner, sgoriwyd ceisiau’n gyson bob rhyw wyth munud gyda Carwyn yn trosi pob un ohonynt.  Daeth holl eilyddion Nant ymlaen yn ystod yr ail hanner ond ni fu i’r sgorio beidio. Yr unig wahaniaeth oedd i Bwllheli sgorio dau gais hefyd gan drosi un ohonynt. Pwynt bonws arall i Nant ac edrychir ymlaen at gêm gynghrair olaf y tymor i ffwrdd yn Nolgellau ddydd Sadwrn nesaf. Ond cyn hynny, bydd gêm enfawr yn erbyn Caernarfon nos Fawrth nesaf gyda’r gic gyntaf am 7.30 o’r gloch. Dewch yn llu i wylio rownd gyn derfynol Cwpan Gogledd Cymru. 

On a sunny afternoon with a large crowd watching, Nant scored at regular intervals throughout the game. At half time, the score was 22-0 with Carwyn ap opening the scoring with a penalty and an unconverted try within the first ten minutes. After another 10 minutes, Adam scored his first out of three tries which was duly converted by Carwyn ap. Both scorers repeated the feat right on half time. During the second half, a converted try was scored every 8 minutes or so. All of Nant’s sustitutes played during the last half hour and still three tries were scored. In fairness, Pwllheli did score a converted try (Euros Thomas and Dilwyn Jones) whilst Arwyn Bodlas scored a try with the last move of the match. Another bonus point win for Nant, therefore, and next Saturday, Nant will play their final league match of the season away at Dolgellau. But, before then, there’s the issue of the North Wales Cup semi final match to be played against Caernarfon at Pant Carw on Tuesday evening with the kick off at 7.30 p.m. Please come there in droves to support the team!

Last Updated ( Saturday, 18 April 2009 18:42 )